Brecon Jazz Festival

Brecon Jazz Festival 2007

Er 1983 mae Gwyl Jazz Aberhonddu wedi sicrhau dilyniant enfawr ac yn ôl pob sôn, dyma un o ddigwyddiadau jazz mwyaf Ewrop, gan roi llwyfan i'r perfformwyr jazz rhyngwladol gorau.

Eleni, mae Iris Williams, Courtney Pine Group a George Melly yn ddim ond tri o'r sêr profiadol sy'n perfformio. Mae Gwyl Jazz Aberhonddu wedi dod i gytundeb nawdd tair blynedd gydag HSBC, ac roedd angen ymgorffori'r nawdd hwn mewn logo newydd. Mae'r dyluniad bywiog a gynhyrchwyd gennym yn adlewyrchu'r priodoleddau difyr a diwylliannol sy'n nodweddiadol o'r digwyddiad, a bwriedir iddo apelio at y gynulleidfa helaeth y mae'n ei ddenu. Bydd y ddelwedd yn cael ei defnyddio ar yr holl ddeunyddiau marchnata, gan gynnwys llyfrynau archebu tocynau, hysbysebion, stondinau arddangos, y gofraglen a'r wefan newydd sbon www.breconjazz.co.uk a luniwyd gan dîm gwe a rhyngweithiol PGA.

» Brand  » Print  » Y We  » Hysbysebu  » Arddangos 

Back