St Davids Catholic College Cardiff
Prospectus 09 - 10
Mae Coleg Pabyddol Dewi Sant yn cynnig ystod eang o gyrsiau ar lefel chweched dosbarth. Ceir llawer o gyrsiau lefel A a chyrsiau cyfatebol ar Lefel 3, yn ogystal â’r cyfle i wella ar raddau TGAU gyda chyrsiau Lefel 2. Comisiynodd y Coleg ffotograffau anghygoel o fyfyrwyr a dynnwyd gan Betina Skovbro i’w defnyddio yn y prosbectws newydd sydd mewn arddull prifysgol. Cynlluniwyd templed dylunio newydd gennym ar gyfer y prosbectws mewn fersiwn Saesneg a Chymraeg er mwyn rhoi arddull addysgiadol, fywiog, ffres drwyddo. Gyda thros 40 o gyrsiau i’w dangos, daeth PGA o hyd i ddelweddau o lyfrgelloedd lluniau er mwyn ategu lluniau’r myfyrwyr. Dywedodd Catherine Grace, Pennaeth Cyfathrebu yng Ngholeg Pabyddol Dewi Sant: ‘mae arbenigedd creadigol a chyfanrwydd artistig tîm PGA wedi bod yn ganolog i lwyddiant casglu a golygu prosbectws coleg o’r dechrau a gwneud y cyhoeddiad yn weledol syfrdanol. Mae pawb yng Ngholeg Pabyddol Dewi Sant wrth eu bodd â safon y cynnyrch gorffenedig.’

